WORIC Electronics GettyImages-618346454.jpg

Astudio gyda ni

Astudiaeth PhD/Doethuriaeth


Rydym yn croesawu ceisiadau am raddau ymchwil ôl-raddedig sy’n cael eu hariannu gan yr unigolyn, megis PhD neu Meistr drwy Ymchwil. Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser.  Gallwch ddod o hyd i fanylion ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yma.

Mae ein meysydd arbenigedd yn cynnwys:

  • Mesuriadau, modelu sianel, rhagfynegiadau RF 
  • Systemau mynediad di-wifr sefydlog band eang
  • Lluosogi tonnau radio 
  • Technegau seinio sianel
  • MIMO ac antenâu clyfar
  • Dyluniad a mesuriadau antena
  • Radio wedi'i ddiffinio gan feddalwedd
  • Systemau laser 
  • System fesur optegol 
  • Offerynnau meddygol sy'n seiliedig ar Optoelectroneg 
  • Cydrannau telathrebu 
  • Modelu system optegol ac optoelectroneg 
  • Cyfrifiadura cyfochrog ar gyfer modelu system optegol ac electromagnetig


Pam PDC?

Neilltuir tîm goruchwylio i ymchwilwyr ôl-raddedig sydd â'r arbenigedd a'r profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil, rhoi adborth ar y gwaith sydd ar y gweill a'ch tywys i'w gwblhau.

Drwy gydol eich doethuriaeth, cewch gyfleoedd i gyfathrebu eich gwaith a rhwydweithio gydag ymchwilwyr eraill, yn fewnol ac yn allanol. Mae llawer o'n myfyrwyr yn cael cyfle i ennill profiad addysgu yn y Brifysgol a chydag ysgolion drwy'r Brilliant Club.

Byddwch hefyd yn elwa ar raglen o gyrsiau datblygu sgiliau perthnasol a drefnir gan yr Ysgol Graddedigion sy'n helpu i sicrhau eich bod wedi'ch paratoi'n llawn ar gyfer gofynion PhD.

Pan fyddwch yn barod i gyflwyno cais, dyma sut i wneud cais. Gallwch ddod o hyd i'n ffioedd dysgu ar gyfer ymchwil ôl-raddedig yma a rhagor o wybodaeth ar ein safle Ysgol i Raddedigion.





Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig